Thanks to a National Lottery grant, Maesteg Canoe Club was able to restart activities after lockdown

Canoe Wales • Dec 15, 2020

Sgroliwch i lawr am Gymraeg - Scroll down for Welsh

National Lottery Funded Club in the Spotlight

This week, the National Lottery Dedicated To… campaign recognises the efforts and hard work of grassroots sporting heroes right across the UK – our clubs, coaches and volunteers.


It has been a difficult time for us all and we would like to say a huge thank you to the commitment and kindness of our volunteers - you are helping to keep our communities going, mentally and physically!


As part of the campaign, we caught up with Maesteg Canoe Club in Bridgend. 


Recently handed a National Lottery grant, the club welcomes children and adults. In recent years, it has won a number of accolades including 2018 Canoe Wales Club of the Year. Its motto is family-run, family fun and it prides itself on being inclusive.


Two years ago, it became the first water-based club in Wales and Bridgend to secure Disability Sport Wales’ Insport gold status – the highest standard a club can achieve in terms of creating and developing inclusivity.


Like all clubs, it was forced to cancel sessions from 23 March onwards as the nationwide lockdown was announced. Keen to remind juniors that the club was still there, waiting for lockdown to finish, the club decided to send thought packages to its juniors.


Club Chair Emily Evans – who is also an NHS Wales Ward Clerk – explains:


“We wanted them to know that we were missing them and thinking of them so we sent them a little postbox gift of rainbow and emoji stickers, a glow stick and a balloon just as a little treat. 


“We also checked in on each other to make sure everyone was ok.”


Once the swimming pool could reopen, the club met with the leisure providers to work out a new way of doing things. To ensure both juniors and adults can continue to enjoy the sport they love, the coaches rolled up their sleeves and helped pool staff to sanitise the pool area and equipment.


The club lost revenue in lockdown but National Lottery funding from the Sport Wales Be Active Wales Fund has helped the club to restart:


“The National Lottery funding has made a huge difference. It feels like a security blanket has been thrown over the club. We know we’re ok now to carry on until March.”


Spelling out the importance of the club, Emily adds: “We don’t just provide canoeing activity; it is a second home for our members. We are inclusive and we have members who are autistic. Their confidence has improved so much – one parent told us how much the club had changed the lives of the whole family.


“We welcome members of all abilities, young and old and we see these strong friendships unfolding which is lovely to see. We have also had amputees at the club and someone who was visually impaired. Everyone is welcome!”


With the help of National Lottery funding, thousands of grassroots sports workers and volunteers from local clubs and organisations across the UK, have been be able to continue to help the nation to remain active, happy and motivated during the Covid-19 pandemic.


Thanks to National Lottery players, £30 million is raised every week for good causes, many of which are supporting the most vulnerable in our communities across the UK during the Coronavirus crisis.


Sylw i Glwb Sydd Wedi Cael Cyllid Y Loteri Genedlaethol

Yr wythnos yma, mae ymgyrch Ymrwymiad I.... y Loteri Genedlaethol yn cydnabod ymdrechion a gwaith caled arwyr chwaraeon ar lawr gwlad ledled y DU – ein clybiau, ein hyfforddwyr a’n gwirfoddolwyr.              


Mae wedi bod yn gyfnod anodd i ni i gyd a hoffem ddiolch yn fawr iawn i ymrwymiad a charedigrwydd ein gwirfoddolwyr - rydych chi’n helpu i gynnal ein cymunedau ni, yn feddyliol ac yn gorfforol!


Fel rhan o'r ymgyrch, fe gawsom ni sgwrs gyda Chlwb Canŵio Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 


Wedi cael grant y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar, mae'r clwb yn croesawu plant ac oedolion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Clwb Canŵio y Flwyddyn Cymru yn 2018. Ei arwyddair yw family-run, family fun ac mae'n ymfalchïo mewn bod yn gynhwysol.


Dwy flynedd yn ôl, dyma'r clwb dwr cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Nghymru i sicrhau statws Insport aur Chwaraeon Anabledd Cymru – y safon uchaf y gall clwb ei chyflawni o ran creu a datblygu cynhwysiant.


Fel pob clwb, fe'i gorfodwyd i ganslo sesiynau o 23 Mawrth ymlaen wrth i'r cyfyngiadau symud cenedlaethol gael eu cyhoeddi. Yn awyddus i atgoffa’r plant bod y clwb yno o hyd, yn aros i'r cyfyngiadau symud ddod i ben, penderfynodd y clwb anfon pecynnau meddylgar at y plant.


Dyma Emily Evans – Cadeirydd y Clwb – sydd hefyd yn gweithio fel Clerc Ward i GIG Cymru, i esbonio:


"Roedden ni eisiau iddyn nhw wybod ein bod ni'n eu colli nhw ac yn meddwl amdanyn nhw felly fe wnaethon ni anfon anrheg fach yn y post o sticeri enfys ac emoji, ffon yn goleuo a balŵn.


"Fe wnaethon ni hefyd gysylltu â’n gilydd i wneud yn siŵr bod pawb yn iawn."


Unwaith y gallai'r pwll nofio ailagor, cyfarfu'r clwb â'r darparwyr hamdden i benderfynu ar ffordd newydd o wneud pethau. Er mwyn sicrhau bod y plant a’r oedolion yn gallu parhau i fwynhau'r gamp maent mor hoff ohoni, mae'r hyfforddwyr yn torchi eu llewys ac yn helpu staff y pwll i ddiheintio ardal y pwll a’r offer.


Collodd y clwb refeniw yn ystod y cyfyngiadau symud ond mae arian y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru wedi helpu'r clwb i ailddechrau:


"Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwneud byd o wahaniaeth. Mae'n teimlo fel bod blanced ddiogelwch wedi'i thaflu dros y clwb. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n iawn nawr i ddal ati tan fis Mawrth."


Gan esbonio pwysigrwydd y clwb, ychwanegodd Emily: "Nid dim ond gweithgarwch canŵio ydyn ni’n ei ddarparu; mae'n ail gartref i'n haelodau ni. Rydyn ni’n gynhwysol ac mae gennym ni aelodau sy'n awtistig. Mae eu hyder nhw wedi gwella cymaint – dywedodd un rhiant wrthym ni bod y clwb wedi newid bywyd y teulu cyfan.


"Rydym yn croesawu pobl o bob gallu, hen ac ifanc ac rydyn ni'n gweld cyfeillgarwch cryf yn datblygu, sy'n hyfryd i'w weld. Rydyn ni hefyd wedi cael unigolion yn y clwb sydd wedi colli aelodau o’u cyrff ac aelod â cholled golwg. Mae croeso i bawb!”


Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.


Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Scroll up for English - Sgroliwch i fyny am Saesneg

Recent Posts

17 Apr, 2024
An accomplished paddler and passionate coach, Emily King is the vibrant new SUP Lead at Canoe Wales.
16 Apr, 2024
UK Coaching is praising the commitment of the volunteer and paid coaching workforce who deliver sport and physical activity across the UK for taking a holistic, people first approach to coaching.
09 Apr, 2024
Technical, Sprint, and Open Ocean Point-To-Point Racing - FBOR’24 are partnering with Canoe Wales and WSF to bring you a line-up of exciting open ocean racing at Newport Beach.
Show More
Share by: