Ydych chi'n badlwr PAD ymroddedig, yn aelod o'r gymuned PAD, hyfforddwr neu arweinydd?
Oes gennych chi'r awydd i helpu i ddatblygu chwaraeon Padlfyrddio ar Draed ac yn teimlo'n barod i wirfoddoli eich amser?
Os felly, gallech helpu i gefnogi Corff Llywodraethu Cenedlaethol PAD yng Nghymru.
Rydym yn falch iawn o fod yn agor nifer o swyddi ar yr is-bwyllgor Padlfyrddio ar Draed i bobl wybodus, brofiadol a llawn cymhelliant a hoffai ein cefnogi.
Yn y rôl hon byddech yn cefnogi Emily fel Arweinydd PAD ac yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill yr is-bwyllgor, wrth i ni weithio ar y cyd drwy feysydd llywodraethu, diogelwch a safonau hyfforddiant PAD yng Nghymru.
Mae'r is-bwyllgor hwn yn cynnig cyfle i bobl nad ydynt yn ymwneud â strwythur llywodraethu Canŵ Cymru gymryd rhan a helpu i ddatblygu PAD ymhellach a chyflawni ein nodau.
Rydym yn chwilio am bobl sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth ac sy'n gallu dod â chyfraniad cytbwys ac adeiladol i drafodaethau. Mae gwybodaeth dda am badlfyrddio ar Draed yn hanfodol, gan y bydd y grŵp hwn yn ffurfio trafodaethau ynghylch meysydd allweddol datblygiad PAD.
Felly, os hoffech ddod â'ch syniadau i'r bwrdd a chydweithio ag Emily a'r tîm yng Nghanŵ Cymru, ystyriwch wneud cais - ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!
Anfonwch gais ysgrifenedig byr sy'n cwmpasu sgiliau, profiad, a pham yr hoffech ymuno â ni erbyn 01/11/23 i Emily.evans@canoewales.com.
Canoe Wales | All rights reserved.
Website Design by Website Sorted
CANOE WALES, CANOLFAN TRYWERYN, FRONGOCH, BALA, GWYNEDD, LL23 7NU | Company No. 02478971 | VAT No. 115151262