Cyngor i Badlwyr
Rydym yn argymell eich bod yn ystyried y camau gweithredu canlynol er mwyn lleihau’r risg i chi a’r amgylchedd naturiol:
- Peidiwch â phadlo ar ddyfrffyrdd sy’n rhy fas a lle gallech ddod i gysylltiad â gwely’r afon neu’r llyn. Gallai hyn gael effaith bosibl o darfu ar fywyd gwyllt a’u cynefinoedd neu ddenu honiadau o aflonyddu.
- Os dewch ar draws ardaloedd basach, darllenwch y dŵr a chwiliwch am sianel ddyfnach lle bo’n bosibl fel eich llwybr.
- Mae llif isel yn golygu bod llai o ddŵr i wanhau elifiant/dŵr ffo o’r tir o amgylch a gwaith trin carthion. Byddwch yn ymwybodol y gall lefelau is o ansawdd dŵr fod yn berygl i iechyd.