RHAGLEN GWIRFODDOLWYR IFANC

Cyfle i ennill gwobrau a hyfforddiant am ddim am roi eich amser

Rydym ni’n gyffrous iawn i lansio’r Rhaglen Gwirfoddolwyr Ifanc newydd sbon ar gyfer padlwyr rhwng 14 a 25 oed! 

Trwy gofnodi’r oriau rydych chi’n eu gwirfoddoli, gallwch ennill gwobrau gwerth hyd at £70 i’w gwario yn ein siop ar-lein, lle cewch afael ar eitemau fel mygiau gwersylla a chrysau-t.

Cofrestrwch nawr a byddwn yn anfon cod disgownt gwerth £5 atoch fel anrheg i’ch croesawu.

Ar ben hyn, bydd y 15 menyw gyntaf i wirfoddoli 10 awr, ynghyd â’r 15 dyn cyntaf i wirfoddoli 10 awr, yn ennill penwythnos o hyfforddiant am ddim yng Nghyfarfod yr Aelodau 2019 ym mis Medi!
COFRESTRWCH NAWR MWY

BETH YW’R RHAGLEN GWIRFODDOLWYR IFANC?

Mae Rhaglen Gwirfoddolwyr Ifanc Canŵ Cymru yn cydnabod y ffyrdd mae pobl ifanc yn rhoi yn ôl i chwaraeon padlo. Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn gofyn i chi gofnodi eich oriau gwirfoddoli gan ddefnyddio ap arbennig. Gallai hyn gynnwys trefnu digwyddiadau, arwain sesiynau gyda phobl ifanc, rheoli cyfryngau cymdeithasol eich clwb neu hyd yn oed fynychu cyrsiau hyfforddiant.

Bydd gennych chi fentor yn y clwb a fydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich rôl gwirfoddoli a’ch cefnogi i ganfod unrhyw hyfforddiant sydd ei angen arnoch.

Wrth i chi gofnodi eich oriau, byddwch yn cyrraedd cerrig milltir ac yn medru cyfnewid yr oriau hynny am godau disgownt y gallwch eu defnyddio yn ein siop ar-lein.

Mae yna hyd yn oed benwythnos o hyfforddiant am ddim ar gyfer y 30 gwirfoddolwr cyntaf i gofrestru a chofnodi 10 awr, ar y 21-22 Medi 2019 ger Y Drenewydd. Bydd yn cynnwys dau ddiwrnod o hyfforddiant dan do a hyfforddiant ar y dŵr gyda gwirfoddolwyr ifanc eraill ledled Cymru, llety un noson ym Mroneirion, a chyfle i fynychu ein cinio blynyddol, sy’n cynnwys pryd dau gwrs, am ddim.
COFRESTRWCH NAWR

SUT I GOFNODI EICH ORIAU

Mor hawdd â lawr lwytho ap!

Byddwch yn cofnodi eich oriau gan ddefnyddio ap VolHours, sy’n hawdd iawn i’w ddefnyddio ac ar gael i’w lawr lwytho i ffonau iOS neu Android. Bydd yr ap yn gadael i chi, eich mentor gwirfoddoli yn y clwb, a Canŵ Cymru i weld faint o oriau rydych chi wedi’u cofnodi pob wythnos.

Gallwch lawr lwytho’r ap nawr a dechrau cofnodi eich gwobrau- a byddwch yn medru cyfnewid eich gwobrau o 1 Gorffennaf 2019 pan fydd ein siop newydd yn cael ei lansio.

Mae gennym hefyd ganllaw defnyddiol i’ch helpu i ddefnyddio’r ap.

App Store
Get it on Google Play
EWCH I’R CANLLAW
Aerial view of Celtic Camping farm buildings with sea in distance

ENNILL GWOBRAU

Byddwch yn ennill gwobrau i’w cyfnewid yn Siop Ar-lein newydd sbon Canŵ Cymru ar ôl i chi gofnodi 10, 50 a 120 o oriau yn gwirfoddoli gyda chwaraeon padlo - byddwch hefyd yn derbyn cod disgownt gwerth £5 am gofrestru!

 

  • Cofrestru – cod disgownt gwerth £5
  • 10 awr – cod disgownt gwerth £15
  • 50 awr – cod disgownt gwerth £20
  • 120 awr – cod disgownt gwerth £30 a byddwch yn derbyn GWOBR AUR GWIRFODDOLWYR IFANC yng Ngwobrau Canŵ Cymru 2020

 

Bob tro y byddwch yn cyrraedd carreg filltir, pwyswch y botwm isod er mwyn gofyn am eich cod disgownt– yna byddwn yn anfon cod unigryw i chi dros e-bost y byddwch yn medru ei ddefnyddio yn y siop ar-lein.

HAWLIO EICH GWOBRAU

ANGEN MWY O WYBODAETH?

Rydym ni yma i’ch helpu! Mae Cath Sykes yn arwain y rhaglen hon a gallwch gysylltu â hi ar cath.sykes@canoewales.com neu 07734257417 a bydd yn ateb eich holl gwestiynau ac yn eich helpu i ddechrau ar eich taith gwirfoddoli.



NODDWYR Y RHAGLEN


TELERAU AC AMODAU

  • Cofrestru
    • Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn gofyn am ychydig o wybodaeth amdanoch a fydd yn ein galluogi i ddilyn eich cyfranogiad ac anfon gwobrau gwirfoddoli atoch. Gallwch ofyn am adael y rhaglen a gofyn i ni ddileu eich data personol ar unrhyw adeg.
    • Byddwn yn cysylltu â chi’n rheolaidd dros e-bost - ac ar ffôn symudol pan fo’n briodol - i’ch cefnogi gyda’ch gwaith ar y rhaglen.
    • Er mwyn derbyn eich cod disgownt croeso gwerth £5, mae’n rhaid i chi fod rhwng 14 a 25 oed pan fyddwch yn cofrestru.
    • Un disgownt croeso gwerth £5 y person yn unig.
  • Ennill gwobrau
    • Mae’n rhaid i chi lawr lwytho a defnyddio’r ap VolHours ar eich ffôn symudol er mwyn ennill gwobrau- ni fydd unrhyw ffordd arall o gofnodi oriau yn cael ei dderbyn ar gyfer y gwobrau.
    • Bydd Canŵ Cymru a/neu eich mentor clwb yn adolygu ac yn cymeradwyo’r oriau rydych chi wedi’u cofnodi ar ap VolHours.
    • Er mwyn derbyn eich gwobrau o godau disgownt, mae’n rhaid i chi gwblhau’r ffurflen i wneud cais am eich gwobr. Ni fydd gwobrau yn cael eu hanfon atoch yn awtomatig.
    • Bydd codau disgownt yn cael eu hanfon at y cyfeiriad e-bost rydych chi wedi ei ddarparu i ni wrth gofrestru. Pan fyddwch yn gofyn am god disgownt, sicrhewch eich bod yn nodi eich cyfeiriad e-bost yn gywir.
  • Hawlio gwobrau
    • Gellir defnyddio codau disgownt yn Siop Ar-lein Canŵ Cymru yn unig fel rhan o’r taliad am y cynnyrch sydd ar werth yno.
    • Dim ond un cod disgownt y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pob archeb.
    • Unwaith yn unig y gellir defnyddio cod disgownt.
    • Nid oes modd defnyddio cod disgownt i dalu am gostau cludo a thrin.
    • Os nad dych yn defnyddio holl werth y cod disgownt (er enghraifft, os ydych yn defnyddio cod gwerth £30 ar eitem £20) byddwch yn colli unrhyw ddisgownt dros ben.
    • Nid yw Canŵ Cymru yn gyfrifol os ydych yn darparu’r cyfeiriad e-bost anghywir a bod rhywun ar wahân i’r person a fwriedir yn defnyddio’r cod disgownt.
    • Nid oes modd cyfnewid codau disgownt am arian.
    • Pan fydd nwyddau sydd wedi’u prynu ar-lein gan ddefnyddio cod disgownt yn cael eu dychwelyd bydd unrhyw arian sy’n ddyledus yn cael ei ad-dalu drwy god disgownt.
    • Nid yw Canŵ Cymru’n gyfrifol os yw cod disgownt yn cael ei golli, ei ddwyn, ei ddinistrio neu’n cael ei ddefnyddio heb ganiatâd, ac nid oes modd darparu un yn ei le yn yr achosion hyn.
    • Os ydych chi angen cymorth ar unrhyw adeg, cysylltwch â Cath Sykes ar cath.sykes@canoewales.com

Share by: