Canoe Wales is the national governing body for paddle sport in Wales. We:

  • Manage the National White Water Centre which is located on the river Tryweryn in Bala, North Wales
  • Represent the interests of our club and individual members
  • Advocate on behalf of the interests of the sport in Wales
  • Provide coaching and development programmes from local to international level
  • Stage national and international competitions.

Renewable Energy Policy

Introduction

Many of Wales’ water resources are of interest to various types of paddlesport. The quality of rivers, lakes and coastal areas is coming under pressure from various types of development. The WCA are concerned that the amenity value of waterbodies and their environs do not suffer from damage by inconsiderate or poorly planned developments.

Whilst there are many types of development which may affect the water resource, the area focused on in this statement is that of renewable energy developments. The statement is to voice our concerns about the value of access, visual amenity and the wider environment to canoeists and other water users and to explain to developers, planners, government agencies, councilors and politicians the views that the WCA holds and the kind of sites that we would wish to see protected from development.

Policy Context

The WCA recognises the global problems associated with carbon emissions and climate change, and accepts there is a need to alter our sources of energy and societal attitudes towards use of energy. Renewable energy clearly provides a sustainable alternative for energy production.

However, the introduction of new schemes should always be seen as secondary to relaxed public attitudes to use of energy, inefficient appliances and under insulated buildings. We believe that altering our natural heritage in order to explore new energy sources that are then wasted is not appropriate.

The WCA, are aware that participants are sometimes required to travel long distances to undertake their chosen activity and will support any initiatives which allow canoeists to pursue their interest whilst supporting the 9% reduction in CO2 emissions required around the world from 2012.

WCA Policy

The WCA wishes to be involved in the debate on the future of the nation’s energy policy in order to play a proactive role in determining the impact on water that canoeists make recreational use of. We believe in the principle of early consultation being used to identify problems with proposed plans at an early stage and as a way of avoiding protracted conflicts between developers and opponents of a proposed scheme as well as generally improving the public perception of renewable energy.

The WCA would like to see renewable energy developed in such ways to consider the natural heritage value of countryside experience in both our above and under water ecosystemsWe seek to work with developers, agencies, consultants and planning authorities to help identify potential conflicts between canoeing, in all its forms and proposed renewable energy projects. Where developments are proposed we would wish to work with the developer to comment on the safety aspects of the inlet and outlet features, negotiate shut down days for the river to be paddled and in most cases request an online river level gauge.

The WCA seeks to work with developers and energy companies to secure better access on land for facilities that will assist canoeing, such as paths around dams and car parks close to the access and egress points on controlled rivers. We believe that water release information from existing hydro power stations should be more freely available so that more recreational use can be made of the water.

The WCA recognises that the artificial altering of inland water levels by hydro schemes switching on and off could lead to accidents or contribute to existing incidents turning into accidents. We strongly support the provision of information regarding water releases to enable these risks to be ameliorated.

The WCA seeks to protect our coastal scenery. We would prefer to see offshore wind turbines located well out to sea and tidal and wave power stations either out to sea or on our coastlines that have already been developed. We recognise that certain developments may impact upon navigation.

The WCA will oppose development proposals when we consider the watercourse or coastal area that is under threat to be of national or international value to our sport.

Ratified by the Board of Directors 6/10/08
Officer contact: Ashley Charlwood (01678 521083) ashley.charlwood@canoewales.com

Polisi Ynni Adnewyddadwy

Canw Cymru

Cyflwyniad

Mae nifer o adnoddau dwr Cymru o ddiddordeb i wahanol fathau o chwaraeon padlo.  Mae ansawdd yr afonydd, y llynnoedd a’r ardaloedd arfordirol yn dod dan bwysau o ganlyniad i wahanol fathau o ddatblygiad.  Mae Canw Cymru (CC) yn poeni y bydd ein hardaloedd dyfrol a’u hamgylchoedd, a’u gwerth fel mannau amwynder, yn dioddef o ganlyniad i ddatblygiadau anystyriol sydd wedi’u cynllunio’n wael.
Tra bod yna nifer o wahanol fathau o ddatblygiad a all effeithio ar yr adnodd dwr, y maes a ganolbwyntir arno yn y datganiad hwn yw datblygiadau ynni adnewyddadwy.
Mae’r datganiad yn lleisio ein pryderon ynghylch gwerth  mynediad, amwynder gweledol a’r amgylchedd ehangach i‘r rhai sy’n canwio a defnyddwyr dwr eraill, ac i esbonio i ddatblygwyr, cynllunwyr, asiantaethau’r llywodraeth, cynghorwyr a gwleidyddion beth yw barn y CC, a pa fath o safleoedd yr hoffem eu gweld yn cael eu hamddiffyn rhag datblygiad.

Cyd-destun y Polisi

Mae’r CC yn cydnabod y problemau byd-eang sy’n gysylltiedig ag allyriadau carbon a’r newid yn yr hinsawdd, ac yn derbyn bod angen newid ein ffynonellau ynni a’n hagweddau cymdeithasol tuag at ddefnyddio ynni.

Mae’n amlwg bod ynni adnewyddadwy’n darparu ffordd amgen a chynaliadwy o gynhyrchu ynni.  Fodd bynnag, wrth ystyried cyflwyno cynlluniau newydd dylid bob amser edrych yn gyntaf ar agweddau llac y cyhoedd tuag at ddefnyddio ynni, offer aneffeithlon ac adeiladau sydd heb eu hinsiwleiddio’n iawn.  Rydym yn credu nad yw hi’n briodol inni altro’n treftadaeth naturiol er mwyn archwilio ffynonellau ynni newydd sydd yna’n cael eu gwastraffu.

Mae’r CC yn ymwybodol bod cyfranogwyr weithiau’n gorfod teithio’n bell i fwynhau’r gweithgaredd sy’n mynd â’u bryd a bydd yn cefnogi unrhyw fentrau sy’n caniatáu i bobl fwynhau canwio tra’n cefnogi’r 9% o ostyngiad mewn allyriadau CO2 sy’n ofynnol ar draws y byd o 2012.

Polisi’r Canw Cymru

Mae’r CC am gymryd rhan yn y ddadl ynghylch dyfodol polisi ynni’r genedl er mwyn chwarae rôl ragweithiol gyda golwg ar bennu’r effaith ar ddwr a ddefnyddir gan bobl i ganwio yn eu hamser hamdden.  Rydym yn credu yn yr egwyddor o fynd ati i ymgynghori’n gynnar er mwyn canfod unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â chynlluniau arfaethedig yn gynnar yn y broses er mwyn osgoi gwrthdaro hir rhwng datblygwyr a gwrthwynebwyr cynllun arfaethedig, yn ogystal â gwella canfyddiad y cyhoedd o ynni adnewyddadwy.

Hoffai’r CC weld ynni adnewyddadwy’n cael ei ddatblygu mewn ffordd sy’n rhoi ystyriaeth i werth treftadaeth naturiol profiadau cefn gwlad o fewn yr ecosystemau sydd uwchlaw ac islaw’r dwr.

Rydym am weithio gyda datblygwyr, asiantaethau, ymgynghorwyr ac awdurdodau cynllunio er mwyn canfod unrhyw wrthdaro posib rhwng canwio, ar ei holl ffurfiau, â phrosiectau ynni adnewyddadwy arfaethedig.  Pan fydd yna ddatblygiadau yn yr arfaeth hoffem weithio gyda’r datblygwr er mwyn gwneud sylwadau ar ddiogelwch y  nentydd sy’n llifo mewn ac allan o’r afon, trafod dyddiau cau lawr er mwyn caniatáu padlo ar yr afon ac, yn y rhan fwyaf o achosion, wneud cais am arf ar-lein ar gyfer mesur lefel yr afon.

Mae’r CC am weithio gyda datblygwyr a chwmnïau ynni i sicrhau gwell mynediad dros y tir i gyfleusterau sy’n hwyluso canwio, megis llwybrau o amgylch argaeau a meysydd parcio’n agos at fynedfeydd ac allanfeydd ar hyd afonydd rheoledig.  Rydym yn credu y dylai gwybodaeth ynghylch gollwng dwr o’r gorsafoedd pwer hydro presennol fod ar gael yn fwy eang er mwyn gallu gwneud gwell defnydd hamdden o’r dwr. 

Mae’r CC yn cydnabod y gallai newid lefelau dwr mewndirol mewn ffordd artiffisial trwy droi cynlluniau hydro ymlaen ac i ffwrdd arwain at ddamweiniau neu olygu bod y digwyddiadau presennol yn troi’n ddamweiniau.  Rydym yn bendant iawn o blaid darparu gwybodaeth ynghylch gollwng dwr er mwyn lleihau’r peryglon hyn.
Mae’r CC am amddiffyn golygfeydd ein harfordiroedd.  Byddai’n well gennym weld melinau gwynt alltraeth yn cael eu lleoli ymhell allan i’r môr a gorsafoedd sy’n defnyddio pwer y llanw a’r tonnau un ai allan ar y môr neu ar hyd arfordiroedd sydd eisoes wedi’u datblygu.  Rydym yn cydnabod y gallai rhai datblygiadau gael effaith ar y broses o fordwyo.

Bydd y CC yn gwrthwynebu cynigion datblygu pan fyddwn o’r farn bod y cwrs dwr neu’r ardal arfordirol sydd dan fygythiad o werth cenedlaethol neu ryngwladol i’n camp.

Cymeradwywyd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr 6/10/08
Swyddog cyswllt: Ashley Charlwood (01678) 522030 ashley.charlwood@canoewales.com

Accept & Close

Cookies

This website uses 'cookies' to give you the best, most relevant experience. Using this website means you're happy with this. You can find out more about the cookies used by clicking this link.